We’re taking art and creativity on the road, across the UK.
From May 2024 to May 2025, our travelling art studio programme, Art Road Trip, is visiting 18 places across the UK.
We’re going to be working with 24 local arts organisations to create community-led arts projects. In each location, we’re designing events for people with the least access to creative opportunities and the arts.
Over the year, our mobile art studio will host around two hundred public events and work with thousands of people to bring art and ideas inspired by the National Gallery Collection right to where they live.
Where is the Art Road Trip now?
Tŷ Pawb
15‒26 April
As Art Road Trip makes its final stop before returning to London, we are excited to partner with Tŷ Pawb, Wrexham’s multi-award-winning cultural hub. Bringing together arts, markets, and community, Tŷ Pawb celebrates Wrexham’s rich cultural heritage through a dynamic programme of exhibitions, performances, and socially engaged projects. The centre champions craft, skills, and artistic expression for all. True to its name, ‘Everyone’s House’ — Tŷ Pawb is a place where art, culture, and everyday life connect.
In Wrexham, Art Road Trip will explore the connections between the National Gallery Collection and Tŷ Pawb’s heritage of market trade, craft, and skill. Just as the Gallery’s Collection showcases centuries of artistic process and techniques, our sessions will invite participants to engage in hands-on making — bridging past and present through accessible creative workshops. Participants will uncover links between historical artworks and their own experiences, using art to reflect, respond and experiment.
These workshops, held within Tŷ Pawb's gallery and learning spaces, are designed for local families, young people, and community groups. They will encourage creative exploration of themes, from using flowers as a tool in painting to gelli printing and pigment-making, all while exploring identity, place, and storytelling — ultimately inspiring participants to express their own histories and perspectives.
To learn more about Tŷ Pawb, view their website here.
Tŷ Pawb
15–26 Ebrill
Wrth i’r Daith Gelf/Art Road Trip gyrraedd ei lleoliad olaf cyn dychwelyd i Lundain, rydym wrth ein bodd yn partneru gyda Tŷ Pawb, hwb diwylliannol yn Wrecsam sydd wedi ennill llu o wobrau. Gan dynnu gwahanol elfennau at ei gilydd – y celfyddydau, marchnadoedd, a chymuned – mae Tŷ Pawb yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Wrecsam drwy raglen ddynamig o arddangosfeydd, perfformiadau, a phrosiectau sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol. Mae’r ganolfan yn hyrwyddo crefft, sgiliau, a mynegiant artistig i bawb. Fel mae’r enw’n ei awgrymu, mae Tŷ Pawb yn fan lle mae celf, diwylliant, a bywyd bob dydd yn cysylltu â’i gilydd.
Yn Wrecsam, bydd y Daith Gelf/Art Road Trip yn edrych ar y cysylltiadau rhwng Casgliad yr Oriel Genedlaethol/National Gallery a threftadaeth Tŷ Pawb – sef masnach marchnad, crefft, a sgìl. Yn yr un modd ag y mae Casgliad yr Oriel Genedlaethol/ National Gallery yn arddangos canrifoedd o brosesau a thechnegau artistig, bydd ein sesiynau ninnau’n gwahodd pobl i ymgysylltu â chreu â’r dwylo, gan bontio’r gorffennol a’r presennol drwy gyfrwng gweithdai creadigol hygyrch. Bydd y cyfranogwyr yn datguddio cysylltiadau rhwng gweithiau celf hanesyddol a’u profiadau hwy eu hunain, gan ddefnyddio celf i adlewyrchu, ymateb ac arbrofi.
Mae’r gweithdai hyn, a gynhelir o fewn gofodau oriel a dysgu Tŷ Pawb, wedi eu cynllunio ar gyfer teuluoedd, pobl ifanc, a grwpiau cymunedol lleol. Byddant yn annog y cyfranogwyr i archwilio gwahanol themâu, o ddefnyddio blodau fel offer peintio i argraffu yn y dull gelli a chreu pigmentau, a’r cyfan tra’n archwilio hunaniaeth, lleoliad ac adrodd straeon – gan ysbrydoli’r rhai sy’n cymryd rhan i fynegi eu hanes a’u persbectif eu hunain.
I ddysgu mwy am Tŷ Pawb, cymerwch olwg ar eu gwefan yma.